'Hasta la vista baby': Boris Johnson yn ffarwelio ag aelodau seneddol
Mae Boris Johnson wedi ffarwelio ag aelodau seneddol yn San Steffan yn ei Sesiwn Holi'r Prif Weinidog olaf, ddydd Mercher .
Wrth i'r Senedd gymryd egwyl dros yr haf o ddydd Iau ymlaen, fe fydd Prif Weinidog newydd wrth y llyw pan fydd aelodau Tŷ’r Cyffredin yn ail ymgynnull ar 5 Medi.
Fe wnaeth sawl aelod seneddol ddymuno'n dda i Mr Johnson yn ystod ei sesiwn olaf fel arweinydd y Blaid Geidwadol, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.
Er i nifer o ASau Ceidwadol ganmol ei lwyddiant yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, cafodd Boris Johnson hefyd ei feirniadu'n chwyrn gan aelodau'r gwrthbleidiau.
Fe wnaeth Syr Keir Starmer gwestiynu ei allu i ddelio â'r economi yn sgil yr argyfwng costau byw, tra honnodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford nad yw " Downing Street yn lle ar gyfer rhywun sy'n torri'r gyfraith."
Mewn ymateb, bu Boris Johnson yn amddiffyn ei lwyddiant i gyflawni Brexit a darparu brechlynnau yn ystod y pandemig.
Roedd yna hefyd neges i'r Blaid Lafur yng Nghymru gan Mr Johnson, wrth iddo alw arnynt i "wneud eu swyddi" mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â llwyddiant datganoli.
Wrth i'r sesiwn ddod i ben, galwodd Mr Johnson ar ei olynydd i "dorri trethi, ymladd dros ryddid a pheidio gorbwysleisio Twitter."