Newyddion S4C

Signal ffôn yng nghefn gwlad : ‘Ara’ bach yw’r datblygiad'

Signal ffôn yng nghefn gwlad : ‘Ara’ bach yw’r datblygiad'

Mae yna alwadau ar i’r rhai sy’n gyfrifol am sicrhau gwell derbyniad ffôn mewn ardaloedd gwledig i weithredu yn gyflymach, er mwyn sicrhau tegwch i bawb sy’n byw yng nghefn gwlad.

Yn ystod cyflwyniad a thrafodaeth ar faes y sioe yn Llanelwedd, nododd un o gyfarwyddwyr Ofcom, Huw Saunders fod y sefyllfa’n gwella ond bod gwaith i’w gyflawni eto i gyrraedd targedau.

Mae’r cynllun Rhwydwaith Gwledig A Rennir wedi ei sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg mewn signal ffôn symudol, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a darparwyr ffôn yn cytuno ar fuddsoddiad o biliwn o bunnau ar gyfer y fenter. Mae hanner y swm hwnnw yn dod o’r pwrs cyhoeddus.

Y nod yw ceisio sicrhau y bydd signal cryf dros 95% o ddaear y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2025.

Ar gyfer Cymru, mae disgwyl i ganran y tir sy’n derbyn signal godi o 60% i 80% yn sgil y cynllun, gyda’r ddarpariaeth gan o leiaf un darparwr rhwydwaith symudol yn codi o 90% i 95 %.

'Angen gwneud y gorau o’r cyfleoedd'

Yn ôl Elinor Williams, Pennaeth Rheoleiddiol Cymru yn Ofcom, mae angen gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn sicrhau bod tirfeddiannwyr, Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol ac Ofcom yn cydweithio’n effeithiol wrth uwchraddio mastiau ffôn.

Nododd Vanessa Higham o gwmni  Vodafone bod cynllun peilot ar waith yn Eglwyswrw, Sir Benfro gyda mast sy’n cael ei redeg gan ynni gwynt a’r haul. Bydd yn darparu rhwydwaith 4G i gymuned Eglwyswrw.

“Mae adeiladu mastiau fel y rhain yn medru bod yn broses heriol," meddai 

“Ond ry’n ni’n bwriadu adeiladu mwy ohonyn nhw yng Nghymru."

'Wedi clywed yr addewidion o'r blaen'

Cafodd y seminar ei chynnal yn adeilad Undeb Amaethwyr Cymru. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr yr undeb, Guto Bebb, bod y cyflwyniadau gan gynrychiolwyr ar ran Ofcom, Y Rhwydwaith Gwledig A Rennir a chwmni Vodafone yn gadarnhaol iawn.

“Ond be odd yn cael ei ddweud gan y gynulleidfa fyw nag un waith , bod ni wedi clywed y math yma o addewidion o’r blaen.

“Wrth gwrs, pan ry’n ni’n son am gysylltiad yn y Gymru wledig a'r gallu i gael band eang cry' a signal mobile ffôn cadarn, mae e’n rhywbeth sydd wedi cael ei addo dro ar ôl tro, ac eto den ni’n dal i weld bod y Gymru wledig y tu ôl i ardaloedd dinesig o Gymru, ac ara‘ bach yw’r datblygiad.

Codwyd yr angen i ffermwyr gyd-weithio’n agos â’r diwydiant sy’n ymwneud â rhwydweithiau ffôn.

“Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn gyffredinol yn ddefnyddwyr y gwasanaethau yma sydd angen y mastiau yma, felly mae na deimlad yn gyffredinol y bydden nhw’n hoff iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r ateb i’r broblem," meddai Mr Bebb.

“Ond wrth gwrs ‘den ni hefyd wedi clywed yn y seminar heddiw bod ‘na newidiadau sydd wedi digwydd ar sail deddfwriaethol sy’n golygu fod y rhai sy’n fodlon cael mast ar eu tir yn mynd i gael llawer iawn llai o arian i’w digolledu nhw, na’r hyn oedden nhw’n gael yn flaenorol.

“Felly yn sgil yr holl ansicrywdd sy’n bodoli ynghylch cyllidebau i fyd amaeth, mae’r syniad o leihad mewn incwm o fod yn darparu tir ar gyfer mast yn rhywbeth sy’n achosi cryn tipyn o bryder."

Nododd Ofcom hefyd bod darpariaeth 5G wedi canolbwyntio ar ardaloedd  trefol a dinesig hyd yn hyn ond y bydd hynny’n newid yn fuan, gan ddechrau ymddangos mewn ardaloedd gwledig. Bydd rhwydweithiau 2G a 3G yn cael eu diffodd erbyn 2033.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.