Kemi Badenoch allan o'r ras ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr

Kemi Badenoch / Gwefan Kemi Badenoch

Kemi Badenoch yw'r diweddaraf i adael y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dilyn rownd arall o bleidleisio gan ASau Ceidwadol brynhawn Mawrth.

Fe fydd y tri ymgeisydd sydd ar ôl yn wynebu rownd arall o bleidleisio yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Y tri aelod sy'n weddill yw Penny Mordaunt, Rishi Sunak a Liz Truss.

Cafodd canlyniad yr ail bleidlais ei gyhoeddi gan gadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, am 15:00 ddydd Mawrth.

Canlyniad y bleidlais oedd:

Kemi Badenoch, 59 (+1)
Penny Mordaunt, 92 (+10)
Rishi Sunak, 118 (+3)
Liz Truss, 86 (+15)

Bydd y pleidleisio'n parhau tan y bydd dau ymgeisydd ar ôl, cyn i aelodau'r blaid ar lawr gwlad ddewis yr ymgeisydd buddugol.

Mae disgwyl y bydd y ddau ymgeisydd fydd ar ôl yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth yn wynebu ei gilydd mewn dadl fyw ar y BBC nos Lun.

Llun: Gwefan Kemi Badenoch

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.