Cofio Dai Jones ar faes y Sioe Frenhinol

Cofio Dai Jones ar faes y Sioe Frenhinol

Mae cwpan er cof am Dai Jones wedi ei gyflwyno i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mewn derbyniad yn adeilad S4C ar faes Y Sioe fore Mawrth fe gafodd Cwpan Coffa Dai Jones ei gyflwyno’n swyddogol.

Fe gafodd newyddion am gofeb er cof am Dai ar faes y sioe ei gyhoeddi hefyd fore Mawrth ac fe fydd yn cael ei dadorchuddio yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Bu farw Dai Llanilar Jones ym mis Mawrth yn 78 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r gyfres Cefn Gwlad yn ogystal ag arlwy S4C o’r Sioe Frenhinol am nifer o flynyddoedd.

Fe enillodd y Rhuban Glas gan fynd ymlaen i gyflwyno’r gyfres Sion a Sian.

Mae’r cwpan yn cydnabod cyfraniad yr amaethwr a’r darlledwr i S4C a’r Sioe ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Cyhoeddi S4C, fod gan Dai’r “ddawn o groniclo hanes a bywyd Cymru a Chefn Gwlad Cymru ar gof a chadw”.

Ychwanegodd fod Dai “yn feistr ar ddenu yr hen a’r ifanc, pobl y wlad a’r dre”.

Yn ôl John Davies, Cadeirydd Sioe Frenhinol Cymru fod “pob rhan o Gefn Gwlad yn filltir sgwâr i Dai Jones Llanilar”.

Dywedodd hefyd wrth awdurdod S4C: “Os oes un dyletswydd gennych chi…newch yn siwr eich bod yn gwarchod y winllan o Gefn Gwlad”.

Wrth ddiolch i’r sawl a fynychodd y digwyddiad, fe wnaeth Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd S4C, gydnabod y ddyletswydd honno.

Fe fydd y cwpan yn cael ei chyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.