Cofnodi'r tymheredd uchaf erioed yn y Deyrnas Unedig

19/07/2022
Dwr

Mae'r tymheredd uchaf erioed wedi ei gofnodi yn Lloegr ddydd Mawrth.

Cofnodwyd tymheredd o 40.2 gradd Celsius yn Heathrow ger Llundain.

Roedd hyn yn uwch na'r record flaenorol oedd wedi ei chofnodi - sef o 39.1 gradd yn Charlwood, Surrey - yn gynharach yn y dydd.

Roedd y record flaenorol o 38.7 gradd wedi ei chofnodi yng Ngerddi Botaneg Caergrawnt yn 2019. 

Daw hyn wedi i'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru gael ei gofnodi ddydd Mawrth, wrth i'r tymheredd godi i 37.1 gradd ym mhentref Penarlâg, yn Sir y Fflint. 

Cyn dydd Llun, roedd y pentref yn dal y record flaenorol ar gyfer y tymheredd uchaf yng Nghymru ar ôl cofnodi 35.2 gradd nôl yn 1990. 

Mae rhybudd oren am dywydd poeth eithafol gan y Swyddfa Dywydd dal mewn grym rhwng ar draws Cymru a rhan helaeth o'r DU, sydd yn parhau hyd at 23:59 nos Fawrth. 

Mewn rhai mannau o Loegr mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd gwres eithafol coch, gan rybuddio y gall y tymheredd codi ymhellach hyd at 41 gradd. 

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cynghori cwsmeriaid yng Nghymru i wneud teithiau hanfodol yn unig. Maent yn dweud na ddylai unrhyw un yn rhanbarth y Gororau deithio ddydd Mawrth oherwydd y tywydd. 

Er mwyn osgoi gorlenwi, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ceisio darparu capasiti ychwanegol ar wasanaethau allweddol ond mae disgwyl i'r holl wasanaethau fod yn brysur yn sgil y Sioe Frenhinol a seremonïau graddio yng Nghaerdydd ac Abertawe. 

Bydd tocynnau trên ar gyfer dydd Mawrth 19 o Orffennaf hefyd yn ddilys tan ddydd Gwener i'w defnyddio. 

Mae'r Swyddfa Dywydd eisoes wedi rhybuddio  ei bod yn debygol y bydd llawer mwy o bobl yn ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd "gan arwain at risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch dŵr."

Ddydd Llun, roedd pobl wedi heidio i draethau, llynnoedd ac afonydd ar hyd a lled Cymru mewn ymdrech i geisio lleddfu ychydig ar effeithiau'r gwres.

Cafodd yr heddlu ei galw i Lanberis wedi i'r Pontŵn yn Llyn Padarn roi oddi tanodd gan fod gymaint o bobl arno ar yr un pryd. 

Yn Y Barri roedd tagfeydd traffig trwm nos Lun, gyda Heddlu De Cymru yn annog y cyhoedd i osgoi'r ardal oni bai ei bod yn hanfodol. Roedd yr heddlu hefyd wedi rhoi gorchymyn Adran 35 mewn grym yn ardal Ynys y Barri am gyfnod. 

O ganlyniad bydd swyddogion heddlu a PCSOs yn gallu cyfarwyddo unrhyw un sy’n achosi, neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael yr ardal.

Mae hefyd yn rhoi’r pŵer i swyddogion symud unrhyw un o dan 16 oed a mynd â nhw i le maen nhw’n byw neu i le diogel. Mae’r pŵer yn ataliol ac yn caniatáu i swyddog ddelio’n gyflym ag ymddygiad rhywun cyn iddo waethygu.

Llun: Dwr Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.