Cadarnhau dau achos o feirws Marburg yn Ghana
Mae dau achos o'r feirws angheuol, Marburg, wedi eu cadarnhau yn Ghana.
Bu farw'r ddau berson wedi iddyn nhw brofi yn bositif am y feirws.
Dyma'r tro cyntaf i'r clefyd, sy'n debyg i Ebola, gael ei ganfod yn y wlad.
Nid oes unrhyw frechlyn neu driniaeth yn bodoli ar gyfer Marburg, ac mae ei symptomau yn cynnwys tymheredd uchel a gwaedu mewnol ac allanol.
Dywedodd Awdurdod Iechyd y Byd bod "awdurdodau iechyd yn y wlad wedi ymateb yn gyflym, gan ddechrau paratoi yn brydlon ar gyfer rhagor o achosion posibl."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Awdurdod Iechyd y Byd