Tîm 7 pob ochr rygbi Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd

18/07/2022
Lloyd Lewis yn chwarae i Gymru

Mae tîm 7 pob ochr rygbi Cymru wedi cadarnhau eu lle yng Ngwpan y Byd yn Cape Town ym mis Medi.

Enillodd Cymru eu gêm yn erbyn Gwlad Belg i sichrau y byddant yn cystadlu yng Nghwpan y Byd am y chweched tro.

Gorffenodd Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol, tu ôl i'r unig dîm i guro'r crysau cochion, Yr Almaen.

Roedd Cymru yn fuddugol yn eu dwy gêm arall yn y grŵp, yn curo Rwmania 45-0 a Georgia 33-14.

Roedd hyn yn ddigon i ddanfon Cymru i'r rownd nesaf, lle'r oedd yr enillydd yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd.

Enillodd Cymru 24-12 gyda Lloyd Lewis yn sgorio yn eiliadau ola'r gêm i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.