Cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn digwyddiad yng Nghastell-nedd

17/07/2022
Matthew Thomas

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn 47 oed fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghastell-nedd fore dydd Gwener.

Roedd yr heddlu wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i ddyn lleol Matthew Thomas farw o’i anafiadau yn yr ysbyty fore dydd Sadwrn.

Fe fydd Daniel Pickering, 34 oed, o Hampshire yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun wedi ei gyhuddo o lofruddio.

Mae teulu Mr Thomas yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol ac wedi gofyn am lonydd i alaru.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o gwmpas 12.50 fore dydd Gwener ger clwb nos ‘The Arch’ ar Commercial Street y tu ôl i’r orsaf drenau.

Mae’r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i gysylltu drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 2200236046.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.