Joe Biden yn trafod llofruddiaeth Jamal Kashoggi gyda thywysog Sawdi Arabia

Mae Arlywydd yr UDA wedi trafod llofruddiaeth y newyddiadurwr Jamal Kashoggi mewn cyfarfod gyda thywysog Sawdi Arabia Mohammad bin Salman.
Dywedodd Arlywydd Biden ei fod wedi trafod y llofruddiaeth “ar ddechrau’r cyfarfod."
Ychwanegodd ei fod wedi rhoi ei farn yn “uniongyrchol ac yn hollol glir.”
Yn ôl lluoedd diogelwch yr UDA, roedd y tywysog wedi cymeradwyo’r cynllun i lofruddio Mr Kashoggi yn swyddfa conswl Sawdi Arabia yn Istanbul yn 2018.
Mae’r tywysog wedi gwadu’r honiadau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: ITV News