Yr haul yn achosi llosgiadau difrifol i fachgen ifanc o Wynedd

Newyddion S4C 15/07/2022

Yr haul yn achosi llosgiadau difrifol i fachgen ifanc o Wynedd

Wrth i bobl ar draws y wlad fwynhau’r tywydd braf, mae rhiant o Wynedd wedi rhybuddio fod angen cofio bod gan yr haul ochr dywyll hefyd.

Fel sawl un arall dros y Penwythnos, mi fuodd Owi o Borthmadog yn mwynhau chwarae yn ei bwll yn yr ardd.

Roedd ei fam, Rhian, wedi rhoi eli haul drosto nifer o weithiau yn ystod y dydd, ond erbyn fore llun roedd Owi’n sal, ac wedi llosgi yn arw. 

Dywedodd Owi wrth Newyddion S4C nad oedd yn "meddwl fod yr haul yn gallu llosgi chdi hynna faint."

Yn aml, tydi pobol ddim yn siŵr be ydi’r gwahaniaethau rhwng un math o eli haul a’r llall, ac wrth brynu un, mae'n rhaid sicrhau fod gan yr eli haul SPF uchel er mwyn amddiffyn y croen rhag UVB. 

Image
S4C
Cefn Owi ar ôl llosgi dros y penwythnos.

Sgil-effeithiau hir-dymor

Mae Hywel Dafydd yn Ymgynghorydd Llawfeddygol, a dros yr wythnos diwethaf, mae 30 o blant wedi gorfod am gofyn cyngor meddygol yn sgil llosgiadau haul, o'i gymharu â 5 plentyn y llynedd. 

"O ran y sgil-effeithiau hir-dymor, ma' cancr y croen yn mynd yn fwy a fwy niferus blwyddyn ar ôl blwyddyn felly mae'r sgil-effeithiau yn yr hir-dymor hefyd ar eu hanterth." meddai Mr Dafydd.

Mae Swyddfa'r Met wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd eithafol rhwng dydd Sul a Mawrth wythnos nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.