Nadhim Zahawi a Jeremy Hunt allan o'r ras i arwain y Ceidwadwyr
Mae chwech o ymgeiswyr yn parhau yn y ras i arwain y Ceidwadwyr, yn dilyn pleidlais ymysg aelodau seneddol y blaid.
Mae'r cyn-Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt a'r Canghellor Nadhim Zahawi wedi methu a sicrhau 30 o bleidleisiau er mwyn parhau yn yr ornest.
Derbyniodd Mr Hunt 25 pleidlais ac fe gafodd Mr Zahawi 18 pleidlais.
Rishi Sunak gafodd y nifer uchaf o bleidleisiau gan aelodau seneddol.
Mae Mr Hunt bellach wedi taflu ei gefnogaeth tu ôl i'r gyn Canghellor, gan ddweud ei fod yn ymddiried yn Mr Sunak i ddod i'r afael â'r problemau economaidd mae'r wlad yn eu hwynebu.
Mae Penny Mordaunt, Liz Truss, Kemi Badenoch, Tom Tugendhat a Suella Braverman hefyd yn parhau yn y ras.
Canlyniad niferoedd y pleidleisiau i'r chwech sydd yn weddill oedd:
• Rishi Sunak - 88
• Penny Mordaunt - 67
• Liz Truss - 50
• Tom Tugendhat - 37
• Kemi Badenoch - 40
• Suella Braverman - 32
Llun: Llywodraeth y DU