Dau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
13/07/2022
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd ddifrifol yn ardal Rhiwbeina o Gaerdydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd am oddeutu 04:45 fore Mercher.
Roedd y cerbyd Suzuki Alto yn cynnwys bachgen 16 oed, bachgen a merch 17 oed, a dyn a menyw 18 oed.
Fe gafodd pump oedd yn y car eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae'r ferch a'r fenyw yn derbyn triniaeth am anafiadau difrifol.
Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2200233494.