Cath yn Llundain y cyntaf i dderbyn cymorth mwgwd ocsigen ar ôl tân

Fe gafodd cath ei hachub o dŷ oedd ar dân yn Llundain gymorth mwgwd ocsigen i anifeiliaid anwes - y tro cyntaf i fwgwd o'r math yma o fwgwd gael ei ddefnyddio yn y DU.
Cafodd dwy gath eu hachub o'r tŷ yn Paddington, gydag un ohonynt yn derbyn ocsigen.
Rhoddwyd y mygydau i Wasanaethau Tân Battersea, Paddington, Richmond a Hammersmith gan sefydliad Smokey Paws. Mae'r cyfarpar yn dod mewn tri maint gwahanol ac yn gallu cael eu defnyddio ar gŵn, cathod ac anifeiliaid eraill fel cwningod, nadroedd a llygod.
Ers 2019 mae gwasanaethau tân Llundain wedi ymateb i fwy na 100 o achosion sydd yn cynnwys anifeiliaid.
Mae'r cynllun hwn yn rhan o gynllun peilot, ac os yw'n llwyddiannus bydd y cyfarpar ocsigen yn cael eu dosbarthu i orsafoedd tân ar draws Llundain.
Darllenwch fwy yma.