'Dydd Sul fydd yn heriol': Paratoi am Sioe Fawr grasboeth

'Dydd Sul fydd yn heriol': Paratoi am Sioe Fawr grasboeth

Wrth i filoedd o dda byw a’u perchnogion baratoi i deithio i faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, mae’r trefnwyr yn dweud mai diogelwch y creaduriaid a’r degau ar filoedd o ymwelwyr yw eu blaenoriaeth.

Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres llethol o ddydd Sul tan ddydd Mawrth. Yn ôl y rhagolygon, gallai’r tymheredd gyrrraedd 31 gradd selsiws yn Llanelwedd dros y dyddiau hynny.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Steve Hughson mai ei gyfrifoldeb yw sicrhau fod pawb yn ddiogel.

Ychwanegodd ei fod eisoes mewn trafodaethau gydag arddangoswyr a fydd yn cludo eu hanifeilaid i’r maes dros y penwythnos, cyn i’r cystadlu ddechrau ddydd Llun.

“Ry’n ni’n siarad gydag arddangoswyr i neud yn siŵr bo’ nhw’n edrych ar ôl y da byw ar y ffordd lawr i faes y sioe. A wedyn ma’n rhaid i ni neud yn siŵr bod yr anifeilaid yn gallu mynd yn syth i mewn i faes y sioe fore Sadwrn, ac yn syth i mewn i’r sieds o dan y ffans, mas o’r haul.   

“ 'Den ni wedi buddsoddi mewn ffans newydd yn sied y defaid eleni," eglura Mr Hughson.

Mae trefnwyr y sioe amaethyddol wedi bod yn trafod y sefyllfa ddiweddaraf gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Phrif Filfeddyg Cymru.  

“Dwi’n credu dydd Sul fydd yn heriol. Ma' dydd Mawrth, Mercher a Iau yn edrych lot well," meddai Mr Hughson.

Heriau'r tywydd

Dyma’r sioe gyntaf ers tair blynedd, wedi cyfnod y pandemig. Ac mae'r trefnwyr yn gyfarwydd â heriau'r tywydd.

Yn ystod y sioe ddiwethaf yn 2019, fe gyrhaeddodd y tymheredd 29 gradd selsiws ar y maes.

Ac os fydd y gwres yn llethol unwaith eto eleni , nid lles yr anifeiliaid yn unig sy’n flaenoriaeth, ond diogelwch y 250,000 o ymwelwyr sydd yn arfer heidio i’r maes yn Llanelwedd.

Dywedodd Mr Hughson: “Den ni’n deall y cyfrifoldeb i neud yn siŵr y bydd pawb yn ddiogel yn ystod y sioe. Ma’ neges yn mynd mas ar ein gwefan i neud yn siŵr bod bobol yn dod efo eli haul ac yn gwisgo het. A ma digon o le o gwmpas y maes, lle ti’n gallu cadw mas o’r haul. “

Ac wrth i Steve Hughson baratoi ar gyfer ei sioe olaf yn brif weithredwr, cyn ildio’r awennau fis Medi, mae e’n hyderus y bydd modd goresgyn unrhyw heriau.

“Bydd y tywydd yn tipyn bach o broblem, ond fydd e ddim yn stopio’r sioe o gwbwl. A ‘den ni’n edrych ymlaen at sioe lwyddiannus. “      

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.