Newyddion S4C

Syr Mo Farah wedi'i smyglo i'r DU yn anghyfreithlon fel plentyn

The Guardian 12/07/2022
Mo Farah

Mae Syr Mo Farah wedi datgelu ei fod wedi'i smyglo i'r DU yn anghyfreithlon pan oedd yn blentyn naw oed. 

Roedd  y pencampwr Olympaidd wedi dweud yn y gorffennol ei fod wedi gadael Somalia yn wyth oed i ymuno a'i dad a oedd wedi symud i Lundain am fywyd gwell. 

Ond mewn rhaglen ddogfen newydd fydd yn cael ei darlledu nos Fercher, mae'r rhedwr 39 oed wedi datgelu nad oedd ei rieni erioed wedi byw ym Mhrydain. Mae'n dweud y cafodd ei smyglo i'r DU o dan enw plentyn arall. 

Fe ddefnyddiodd yr enw Mohamed Farah er mwyn gwneud cais i fod yn ddinesydd Prydeinig. Ond ei enw ar ôl iddo gael ei eni oedd Hussein Abdi Kahin. 

Dywedodd Syr Mo fod ei blant ei hun wedi'i ysbrydoli i ddweud y gwir am ei hanes. 

Darllenwch fwy yma

Llun: Al King 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.