Dau wedi eu hanafu yn ystod ymosodiad gan gi ym Mlaenau Gwent

Mae dau berson wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad gan gi mewn tŷ ym Mlaenau Gwent.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Llanhilleth am 14:30 brynhawn ddydd Sul. Roedd y gwasanaethau ambiwlans ac ambiwlans awyr yn bresennol hefyd.
Roedd gan ddynes 37 oed anafiadau i'w gwddf, ac roedd dyn 34 oed wedi anafu ei fraich. Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor ond nid yw'r anafiadau yn rhai sy’n peryglu eu bywyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Cafodd y ci ei gymryd gan swyddogion, i gael ei ddinistrio gan filfeddyg.
Darllenwch fwy yma.