Newyddion S4C

Rhybuddion iechyd ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn

The Independent 11/07/2022
Ynys y Barry

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion iechyd yn gysylltiedig â'r gwres ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn hyd yn hyn yn y Deyrnas Unedig. 

Yn ôl y rhagolygon, bydd y tymheredd yn cyrraedd 33 gradd selsiws mewn rhai ardaloedd brynhawn ddydd Llun. 

Yng Nghymru, mae yna Rybudd Iechyd Gwres Lefel Dau mewn grym, a rhybudd uwch, ar lefel tri ar gyfer ardaloedd yn nwyrain a de ddwyrain Lloegr. 

Daw'r tymheredd uchel ar ddechrau wythnos o dywydd crasboeth. Ac mae hynny wedi arwain at rybuddion am gyflyrau fel blinder eithafol a thrawiad gwres, neu heatstroke. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.