Newyddion S4C

Geraint Thomas yn dal ei afael ar y trydydd safle yn Le Tour

10/07/2022
Geraint Thomas

Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi dal ei afael ar y trydydd safle yn y Tour de France ar ôl nawfed cymal y ras.

Fe ddaeth Thomas yn seithfed ar y cymal 192.9km o Aigle i Châtel Les Portes du Soleil ddydd Sul.

Bob Jungels o Lwcsembwrg enillodd y cymal.

Fe gollodd Thomas dair eiliad ar y cymal i arweinydd y ras yn gyffredinol, Tadej Pogacar o Slofenia.

Mae hon wedi bod yn wythnos gyntaf dda i Thomas ac er bod yna dipyn o ffordd i fynd, fe fydd y timau yn medru mwynhau diwrnod o orffwys ddydd Llun cyn ail gychwyn eto ddydd Mawrth ar y cymal 148.5km o Morzine Les Portes du Soleil i Megève.

Llun: Twitter/Geraint Thomas

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.