Gareth Bale: Los Angeles yn ‘teimlo fel cartref’

Mae Gareth Bale wedi dweud fod Los Angeles yn barod yn “teimlo fel cartref.”
Daw sylwadau capten Cymru wrth iddo gael ei gyflwyno i dorf ei glwb newydd Los Angeles FC cyn ei gêm ddarbi yn erbyn Los Angeles Galaxy.
Symudodd Bale i Los Angeles ar ôl i’w gyfnod gyda Real Madrid ddod i ben ar ddiwedd y tymor.
Roedd cryn drafod i ble fyddai Bale yn mynd i chwarae er mwyn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar gyda Chymru ar ddiwedd y flwyddyn.
Welcome home. 🖤💛#LAFC | @LAFC3252 pic.twitter.com/n7jljaMMFI
— LAFC (@LAFC) July 9, 2022
Darllenwch fwy yma.