Newyddion S4C

CC

Boris Johnson wedi rhoi’r sac i Michael Gove 

Sky News 06/07/2022

Mae Boris Johnson wedi rhoi’r sac i i’r Ysgrifennydd Lefelu fyny, Michael Gove. 

Daw hyn ar ôl i Mr Gove nodi ei anfodlonrwydd fod y Prif Weinidog yn bwriadu parhau yn ei swydd.

Yn ôl Sky News, roedd Mr Gove wedi mynd i gyfarfod Mr Johnson i ddweud wrtho fod ei amser ar ben a bod angen camu i'r ochr.

Pan ofynnwyd iddo a oedd Mr Gove wedi ymweld ag ef yn gynharach, dywedodd Mr Johnson na fyddai’n gwneud “sylw”. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.