
Datgelu Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Datgelu Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni yng Ngholeg Cambria ddydd Mawrth.
Mae’r Goron wedi'i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol a ddarganfuwyd yng Nghoedwig Brymbo – sy'n dyddio'n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i'r cyfnod Carbonifferaidd.
Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd haenau o falurion planhigion – ynghyd â llifogydd – y gwythiennau glo cyfoethog a siapiodd etifeddiaeth ddiwydiannol Wrecsam.
Glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy'n cyfleu "ddoe, heddiw ac yfory" Wrecsam yw'r ysbrydoliaeth i'r crefftwyr sy'n creu Cadair Eisteddfod 2025.

Y Goron
Noddir y Goron gan Elin Haf Davies a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Prydwen Elfed Owens, er cof am ei rhieni a blynyddoedd ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn Ysgol Gwynfryn.
Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Neil Rayment ac Elan Rowlands. Dyma’r ddau a greodd y Goron drawiadol ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, a enillwyd gan Gwynfor Dafydd am ei gyfres o gerddi ar y testun ‘Atgof’.
Fe’i chyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Adfeilion’. Y beirniaid eleni yw Ifor ap Glyn, Gwyneth Lewis a Siôn Aled.
Yn amgylchynu'r Goron mae patrwm organig ailadroddus wedi'i gymryd yn uniongyrchol o ffurfiau ffosiliedig. Wedi'u hymgorffori o fewn patrymau amgen, mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam.
Mae’r rhain yn cynnwys Adeiladu Tŷ Strode ger Brymbo yn 1725, a dechrau Chwyldro Diwydiannol Wrecsam pan agorwyd Gwaith Haearn Bersham yn 1782, sefydlu Gwaith Haearn Brymbo ddegawd yn ddiweddarach, a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.
Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, a 157 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2021, prynodd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney y clwb. Lansiwyd Lager Wrecsam yn 1882, ac fe greodd James Idwal Jones yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900. Erbyn 1913 roedd 10,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y maes glo.
Yn ganolog i'r Goron mae ail-ddychmygiad o’r Nod Cyfrin (a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod y llynedd) sydd bellach yn cynnwys gwead garw, tebyg i garreg, i adleisio'r ysbrydoliaeth ddaearegol.
Mae'r gair 'Wrecsam' wedi'i osod yn falch ar draws y Goron mewn ffont pwrpasol sy'n talu teyrnged i'r arwydd "Wrexham" arddull Hollywood eiconig a ddatgelwyd yn 2021.
Dywedodd Elan, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, "Roedd hi’n fraint a llawenydd i fod y grefftwraig ieuengaf i gyd-ddylunio a chreu Coron yr Eisteddfod y llynedd, ac erbyn hyn, i fod yn un o'r crefftwyr-dylunwyr cyntaf i'w chreu am yr ail flwyddyn yn olynol.
"Mae dylunio'r Goron am yr eildro nid yn unig yn garreg filltir broffesiynol, ond hefyd yn brofiad creadigol hynod o foddhaus. Mae rhywbeth arbennig iawn am gymryd cysyniad sydd wedi'i wreiddio mewn lle, hanes, a chof, a'i droi’n waith celf symbolaidd y gellir ei wisgo.
"Mae'r prosiect hwn yn dal arwyddocâd personol dwfn i mi. Roedd fy hen-hen daid yn gweithio yn nglofeydd Hafod yn Rhos, a magwyd fy nhad yn yr ardal.
"Yn ogystal, wrth imi ymchwilio i orffennol diwydiannol yr ardal, cefais fy nghyffwrdd yn arbennig gan stori Trychineb Gresffordd yn 1934, lle collodd 266 o ddynion eu bywydau. Mae'r Goron yn anrhydeddu eu cof, a chryfder a gwydnwch parhaol y gymuned a helpodd i'w hadeiladu."
Ychwanegodd Neil, "Rwyf wedi cael y fraint o weithio ar nifer o brosiectau eiconig trwy gydol fy ngyrfa fel arianydd ac aurwr – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda nifer o'r darnau hynny'n ennill cydnabyddiaeth wobrwyol. Er hyn, mae'r ail Goron genedlaethol hon yn nodi lle unigryw yn fy nhaith.
"Fel gyda'r cyntaf, bu hon yn bartneriaeth greadigol eithriadol – un sy'n anrhydeddu'r ddeinameg rhwng meistr a phrentis, profiad a safbwynt ffres. Mae'r broses wedi bod yn un cydweithredol, wedi'i chynnal gan barch a brwdfrydedd rhannol am ragoriaeth yn y grefft.
"Mae'r Goron hon yn fwy na gwrthrych seremonïol – mae'n ddarn o gelf etifeddiaeth, wedi'i ddylunio a'i greu â llaw, ac wedi'i wreiddio mewn traddodiad ac arloesedd. Mae'n ein gosod yn gadarn o fewn hanes diwylliannol Cymru, etifeddiaeth rwy'n hynod falch o gyfrannu ati.”
Y Gadair
Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.
Fe’i chyflwynir am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell, ar y testun ‘Dinas’. Y beirniaid yw Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn. Rhoddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, a’r wobr ariannol gan Goleg Cambria.
Bu Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson yn ymchwilio i hanes a diwylliant ardal yr Eisteddfod yn fanwl cyn cyflwyno’u syniadau. Dywedodd Gafyn, sy'n hanu o Fangor, eu bod wedi adnabod pedwar prif dirnod sy’n ymwneud â Wrecsam, ac sy'n bwysig i’r trigolion lleol.
"Mae’r pedwar prif nodwedd yma, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai’r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun," meddai.
I ddechrau, mae cefn y Gadair yn adlewyrchu bwa traphont ddŵr Pontcysyllte.
"Bydd y bwa yn cael ei lenwi gyda thair ffenest wydr gyda’r gwydr yn cael ei ysgythru gydag enw llawn y Brifwyl. Mae’r ffenest yn adlewyrchu eglwysi a chapeli'r ddinas, a hefyd o bosib yn ffenest i ddyfodol y Brifwyl.”
Ychwanegodd Gafyn bod rhan uchaf y Gadair yn cymryd ysbrydoliaeth o siâp to’r Cae Ras, stadiwm bêl-droed y ddinas.
"Mae’r llinellau yma’n gynnil ond yn ddigon cryf i wneud argraff, ac amnaid i’r elfen bêl-droed sydd yn amlwg wedi cael sylw sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae sedd y Gadair hefyd wedi’i gorchuddio mewn defnydd coch, sef lliwiau’r tîm pêl-droed," meddai.
Elfen arall bwysig yn nhreftadaeth y ddinas yw'r diwydiant glo, ac mae'r Gadair yn cynnig teyrnged i'r ddamwain erchyll ym mhwll Gresffordd yn 1934.
Dywedodd Gafyn: "Rydym wedi ceisio rhoi sylw i hyn gan ddefnyddio siâp olwynion y pyllau glo fel sydd yn cael ei arddangos yn y gofeb yng Ngresffordd. Bydd hyn yn atgyfnerthu breichiau’r Gadair fel symbol o sut y gwnaeth y gymuned lofaol leol gefnogi’i gilydd ar ôl y ddamwain.
"Mae coesau blaen y Gadair yn dilyn siâp hecsagon y simnai – eto yn gynnil – ond yn rhoi cydnabyddiaeth i’r hanes. Mae hefyd yn nodi bod yr Eisteddfod fodern wedi’i chynnal yn Wrecsam chwe gwaith o'r blaen."
Dechreuodd Gafyn a Sean y gwaith o greu'r Gadair yn eu gweithdy yn y Fflint yn y gwanwyn.
"Y peth cyntaf wnaethom ni oedd ‘nôl coed o Erddig ger Wrecsam. Mae'r Gadair mor lleol â phosibl i Wrecsam," meddai.
'Symbol cenedlaethol'
Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod.
“Dyma’r cyfle cyntaf i ni eu gweld nhw, ac rwy’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wrth ddweud ein bod ni wrth ein boddau gyda’r ddwy. Rwy’n sicr y bydd pawb ar hyd a lled Cymru wedi’u gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf.
“Maen nhw’n symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant, ond mae’r lleol hefyd i’w weld yn gwbl glir yn y ddwy, ac mae hyn wedi bod mor bwysig i ni yma yn Wrecsam drwy gydol ein taith.
"Rydyn ni’n ymwybodol iawn ein bod ni’n rhoi cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni - ond ein prifwyl ni yw hi, gyda stamp clir y gogledd ddwyrain i’w weld yn rhaglen pob un o’r pafiliynau ac, rwy’n falch o ddweud, yn ein Cadair a’n Coron.
“Mae heno’n gyfle i ddiolch. Rydyn ni’n diolch i Elin Haf Davies a Prydwen Elfed Owens am eu haelioni’n noddi’r Goron a’r wobr ariannol. Diolch hefyd i Elan Rowlands a Neil Rayment am eu gwaith hyfryd o gelfydd yn creu Coron fendigedig, ac am y gamp o greu dwy Goron ddwy flynedd yn olynol.
“Ac yna’r Gadair, sydd mor addas ar gyfer Eisteddfod yma yn Wrecsam, gyda phedwar nodwedd sy’n agos at ein calonnau ni yma yn yr ardal – y pyllau glo, y draphont, ein bragdai a’r tîm pêl-droed – ac sydd wedi’u cyfuno mewn ffordd hyfryd i greu Cadair hardd, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru a Choleg Cambria am eu cefnogaeth hael. Rydw i wir yn gobeithio y bydd teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth bwysig yma eleni.
“Erbyn hyn mae ‘na lai na hanner can diwrnod i fynd tan i ni agor y giatiau ar y Maes braf yn ardal Is-y-Coed. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi, codi arian, helpu a bod yn gefn i ni fel tîm dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn waith caled, ond yn gymaint o hwyl.
"Dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud sef gwahodd pawb yn wresog iawn i ymuno â ni ym mis Awst er mwyn sicrhau llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.”
Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 4 Awst am 16.00, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 8 Awst am 16.00 yn y Pafiliwn.
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ar gyrion y ddinas o 2-9 Awst.