Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu

08/07/2022

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dathlu 150 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Sefydlwyd yr Undeb yn 1871 yn Abertawe ac fe gafodd y cyfarfod blynyddol cyntaf ei gynnal yng Nghaerfyrddin, ym mis Medi’r flwyddyn canlynol.

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn undeb o eglwysi Annibynnol mewn perthynas wirfoddol â’i gilydd.

Mae tua 370 o eglwysi o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn perthyn i’r undeb ac mae y mwyafrif llethol ohonynt yn gweithredu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Mae gan yr Undeb tua 200 o aelodau personol.

Yn rhan o ddathliadau’r penblwydd mawr bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yng nghanolfan Halliwell, ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant ddydd Iau, Gwener a Sadwrn.

Ymysg y dathliadau bydd gŵyl Undeb 150 yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin yng nghofal Y Parchedig Beti Wyn James fel y Llywydd.

'Tipyn o garreg filltir'

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Y Parchedig Beti Wyn James ei bod hi'n "dipyn o garreg filltir ac mae'r Undeb wedi cyflawni tipyn yn ystod y ganrif a hanner.

"Mae 'na hanes yn perthyn i'r Undeb. Ma' ond i ni orfod edrych i weld pwy sydd 'di bod yn llywyddion yr Undeb, mae'r rhestr yn un helaeth iawn gan gychwyn gyda Gwilym Hiraethog yn 1872."

Beti ydy Llywydd yr Undeb wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd arwyddocaol, ac mae hynny yn "fraint anferthol.

"Ddychmyges i 'rioed y byddwn i'n Llywydd yr Undeb, pan 'wy'n edrych ar enwe sydd ym meibl y Llywydd, mae'n codi braw arna i i feddwl bod fi'n cerdded mewn i'r fath olyniaeth, ond mae'n fraint fawr cael gwneud. 

"Ma hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd wrth gwrs, ni 'di bod yn rhithiol ers blwyddyn ond mae ryw ddaioni wedi dod mas o hwnnw hefyd, ma' gen i flwyddyn arall i fynd a wy'n gobeithio y byddai'n cael cyfle i drafeilio'r wlad ychydig ac i gwrdd â rhai o'n nghyd-annibynwyr."

Mae'r Llywydd yn gobeithio parhau â'r gwaith cadarnhaol sydd wedi digwydd dros y ganrif a hanner ddiwethaf a "chefnogi ac arwain eglwysi annibynnol Cymru" wrth symud ymlaen o'r cyfnod anodd yn sgil y pandemig.

"Ma'i 'di bod yn gyfnod difrifol o anodd wrth gwrs trwy'r cyfnod clo 'ma, ma'i di gadel ei hôl ar yr eglwysi yn sicr. Ma angen i ni ail-ennill ein hyder.

"Gobeithio y byddwn ni'n parhau i ysgogi trafodaethe cydenwadol ac y byddwn ni'n parhau i gynnal y ddeialog  a'r cydweithio iach sydd 'di bod rhyngddom ni fel enwade yma yng Nghymru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.