Holl fyrddau iechyd Cymru yn ail-gyflwyno mesurau Covid-19 mewn ysbytai

05/07/2022
Llwynhelyg

Mae holl fyrddau iechyd Cymru wedi ail-gyflwyno mesurau Covid-19 yn eu hysbytai yn sgil cynnydd mewn achosion. 

Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw'r diweddaraf i gyhoeddi mesurau newydd ddydd Llun. Bydd rhaid i staff ac ymwelwyr wisgo mygydau yn ysbytai'r bwrdd o hyn ymlaen. 

Mae Hywel Dda hefyd wedi cyhoeddi mesurau llymach ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg gan ohirio ymweliadau heblaw eu bod yn rhai diwedd oes, neu'n cael eu hystyried yn angenrheidiol gan brif nyrs ar wardiau. 

Mae'r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn dilyn camau gan fyrddau iechyd eraill Cymru, sydd eisoes wedi gofyn i staff ac ymwelwyr i wisgo mygydau er bod cyfyngiadau cyfreithiol wedi llacio. 

Daw hyn wrth i achosion o Covid-19 gynyddu yng Nghymru, gan godi 35% mewn wythnos. 

Yn ôl ffigyrau Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth 106,000 o bobl brofi'n bositif yn yr wythnos hyd at 24 Mehefin, sy'n cyfateb ag un ymhob 30 o'r boblogaeth. 

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod y penderfyniad wedi'i wneud er mwyn "lleihau’r risg i’n cleifion a’n staff."

Llun: Bwrdd Iechyd Hywel Dda 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.