2023 yn 'flwyddyn gariad' gyda dwy gyfres newydd o Love Island
2023 bydd y "flwyddyn gariad" yn ôl ITV wrth iddyn nhw gyhoeddi dwy gyfres newydd o Love Island.
Fe fydd y gyfres yn dychwelyd i Dde Affrica am gyfres ychwanegol ddechrau'r flwyddyn nesaf - a hynny am y tro cyntaf ers 2020.
Fe fydd y rhaglen, sydd ar hyn o bryd yng nghanol ei hwythfed gyfres, yn dychwelyd i Majorca ar gyfer wyth wythnos haf nesaf.
Dyma fydd y tro cyntaf i ddwy gyfres gael eu darlledu yn yr un flwyddyn gan nad oedd modd cynnal cyfres yn haf 2020 yn sgil y pandemig.
Yn ôl ffigyrau gwylio, rhaglen gyntaf y gyfres o Love Island yw'r rhaglen fwyaf poblogaidd eleni ar gyfer pob rhwng 16 a 34 oed.
Fe fydd y ddwy gyfres nesaf yn cael eu darlledu ar ITV2 ac ar ITVX sef gwasanaeth ffrydio newydd y sianel.