Ehangu cynllun benthyciadau di-log i bobl ifanc Gwynedd a Môn

24/06/2022
Gwynedd
Gwynedd

Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn yn bwriadu ehangu eu priosect 'buddsoddiad mewnol' i amryw o ardaloedd newydd yng Ngwynedd a Môn.

Sefydlwyd Be Nesa Llŷn yn 2015 sef cynllun benthyciadau di-log i bobl ifanc Pen Llŷn sa ni’n cael mwy o bobl ifanc yn dechrau busnesau eu hunain yma bysa mwy o arian yn aros yn y pentrefi wedyn. Mae’n amser da i bobl busnes rhoi arian mewn a helpu pobl ifanc i ddechrau.” fel eu bod nhw'n gallu cychwyn neu ddatblygu busnes yn yr ardal. 

Fe wnaeth 11 o bobl busnes fuddsoddi eu harian yn y cynllun, ac erbyn heddiw, mae 15 busnes wedi derbyn gwerth dros £70,000 o fenthyciadau di-log.

Mae Geraint Jones o gwmni Becws Islwyn wedi buddsoddi yn y gronfa ac yn credu ei bod hi'n hollbwysig ceisio cadw'r bobl ifanc yn eu hardal yn hytrach na gorfod adleoli. 

"'Sa ni’n cael mwy o bobl ifanc yn dechrau busnesau eu hunain yma bysa mwy o arian yn aros yn y pentrefi wedyn. Mae’n amser da i bobl busnes rhoi arian mewn a helpu pobl ifanc i ddechrau.”

Mae cwmniau Tanya Whitebits, Wyau Llŷn a Tylino yn rai o'r busnesau sydd wedi elwa o'r gronfa, ac yn ôl Rebecca Hughes o gwmni Tylino, mae'r benthyciad wedi bod yn hynod o fanteisiol i'r busnes. 

"Mae o wedi helpu fi ddatblygu’r busnes o ran refeniw... dwi’n gobeithio neith o ddatblygu a rhoi cyfle i rywun arall lleol ddechrau busnes eu hun hefyd."

Mae modd i fentrau cymdeithasol hefyd elwa o'r gronfa, ac fe wnaeth Clwb Hoci Pwllheli ddefnyddio'r cyllid i brynu llifoleuadau ar gyfer y cae.

"Mae 'na lot o bethau’n mynd ymlaen rŵan a bydda’r holl bobl ddim yn cael mynediad i’r cae yma heb y gefnogaeth yna.”

Yn dilyn llwyddiant Be Nesa Llŷn, mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn yn bwriadu sefylu amryw o gronfeydd newydd i gymunedau yn y ddwy sir. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.