Ffoaduriaid Wcráin yn dechrau bywydau newydd yng Nghymru gyda chymorth yr Urdd

Mae Wales Online wedi bod yn siarad gyda ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru - gyda nifer wedi derbyn cymorth gan yr Urdd i wneud hynny.
Ddydd Llun fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ymweld ag un ganolfan oedd yn gartref newydd i 60 o deuluoedd, yn cynnwys 100 o blant, i glywed am brofiadau'r rhai oedd wedi ffoi o'r rhyfel.
Dywedodd Mr Drakeford mewn cyfweliad gyda Wales Online ei fod yn falch fod Cymru yn gallu cynnig hafan ddiogel i'r ffoaduriaid.
Ychwanegodd nad oedd y credu y byddai'r ymladd yn Wcráin yn gorffen yn fuan.
Darllewnch ragor yma.