Gweithwyr EasyJet yn Sbaen i fynd ar streic ym mis Gorffennaf

Maes Awyren
Bydd gweithwyr EasyJet yn Sbaen yn mynd ar streic am naw diwrnod ym mis Gorffennaf wrth i nifer o dwristiaid baratoi i fynd yno ar eu gwyliau haf.
Byddant yn mynd ar streic ar dair adeg gwahanol yn ystod y mis, gyda'r cyntaf rhwng 1 a 3 Gorffennaf, yr ail rhwng y 15 a'r 17 o'r mis a'r trydydd rhwng y 29 a 31.
Mae'r gweithwyr yn protestio dros gyflogau ac yn gofyn am gynnydd o 40%.
Daw'r datblygiad yma yn dilyn cyhoeddiad gan EasyJet eu bod nhw'n bwriadu canslo rhagor o hediadau yn y DU dros gyfnod yr haf.
Darllenwch fwy yma.