S4C i ddarlledu pêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn darlledu pêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf.
Ar ôl dod i gytundeb gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru,fe fydd gemau domestig dynion, merched, a gemau gartref tîm rhyngwladol Dan 21 i’w gweld yn fyw ar S4C tan 2026.
Fe fydd 35 gêm yn cael ei ddangos gan Sgorio o gystadlaethau’r dynion, gan gynnwys y Cymru Premier JD, Cwpan Cymru JD a Chwpan Nathaniel MG.
Yn ogystal, fe fydd sawl gêm o gynghreiriau Genero Adran Leagues yn cael eu dangos pob tymor, gyda rhaglen uchafbwyntiau Sgorio yn dangos y gorau o’r holl gynghreiriau pob wythnos.
🏴 S4C: Cartref Pêl-droed Cymru
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) June 20, 2022
Ar ôl dod i gytundeb gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru, mi fydd gemau domestig dynion, merched, a gemau gartref tîm rhyngwladol Dan 21 i’w gweld yn fyw ac yn ecsgliwsif ar @S4C tan 2026.
👉 https://t.co/w5pFckd5ya pic.twitter.com/7JPxR4DvKX
Dywedodd Owain Tudur Jones, dadansoddwr Sgorio a chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i bêl-droed yng Nghymru.
"Mae’r gamp yn fwy poblogaidd nag erioed ac mae Cynghreiriau Cymru Leagues JD ac Adran Leagues Genero yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein chwaraewyr. Dyma yw brig y gêm yma yng Nghymru ac mae’r safon yn codi, tymor ar ôl tymor.
"Rydyn ni ‘di gweld chwaraewyr rhyngwladol fel Ben Cabango, Dave Edwards a Jazz Richards yn chwarae yn y Cymru Premier JD dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n dangos ym mha gyfeiriad mae’r gynghrair yn mynd.
"Mae digon o gemau cyffrous, goliau anhygoel a gelyniaethau mawr, ac mae cyfle i chwarae yn Ewrop ar ddiwedd pob tymor, felly cymaint i unrhyw gefnogwr pêl-droed ei fwynhau."
'Cartref pêl-droed Cymru'
Dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C fod y cytundeb newydd yn tanlinellu statws S4C fel cartref pêl-droed Cymru.
"Mae Sgorio yn frand mae cefnogwyr pêl-droed Cymru yn adnabod ac yn ymddiried ynddo. Y tymor diwethaf, cafodd 48 gêm ddomestig byw eu dangos ar draws blatfformau Sgorio, gyda dros 12 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys ar-lein Sgorio, ac mae hynny yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i gefnogwyr presennol y gynghrair, ac i ddenu cefnogwyr y dyfodol."
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae’n amser da i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru. Gobeithio y bydd y ffaith bod Tîm Cenedlaethol y Dynion wedi cyrraedd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn cynyddu’r cyffro sydd ynghlwm â’r gêm yn ddomestig hefyd ar gyfer y tymhorau sydd i ddod.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C yn rhannu perthynas ddiwylliannol bwysig ac adeiladol sy’n fwy na phêl-droed yn unig. Mae’r berthynas hon yn rhan bwysig o wead cymdeithasol Cymru sy’n bwysig i gymaint o bobl ein gwlad."
Mae S4C wedi darlledu’r Cymru Premier JD ers 2008.