Heddlu ym Mrasil yn cadarnhau fod y newyddiadurwr Dom Phillips wedi ei saethu’n farw

Mae’r heddlu ym Mrasil wedi cadarnhau fod y newyddiadurwr Dom Phillips a’r ymgyrchydd dros hawliau brodorol Bruno Pereira wedi eu saethu’n farw yn yr Amazon.
Dywedodd yr heddlu fod record ddeintyddol Mr Phillips wedi cadarnhau mai ef oedd un o’r cyrff a ddarganfyddwyd ac maen nhw hefyd wedi cadarnhau mae Mr Pereira oedd yr ail gorff.
Yn ôl yr heddlu, roedd y ddau wedi eu saethu gan fwledi hela.
Aeth y ddau ar goll 10 diwrnod yn ôl ar ôl methu a dychwelyd o daith ar yr afon Itaquai yn yr Amazon.
Yn ôl yr heddlu, dyn lleol oedd dan amheuaeth o lofruddio'r ddau arweiniodd swyddogion at y cyrff.
Mae Amarildo da Costa de Oliveira, 41 oed, wedi cyfaddef iddo saethu'r ddau'n farw yn ôl swyddogion yr heddlu.
Cafodd ei frawd, Oseney da Costa, ei arestio hefyd ond mae e’n gwadu unrhyw gyhuddiad.
Mae’r heddlu wedi arestio trydydd person ynglŷn â’r llofruddiaethau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter