'Dwi methu aros at Gemau Stryd yr Urdd’
'Dwi methu aros at Gemau Stryd yr Urdd’
“Dwi rili moyn bod yn yr Olympics.”
Dyma freuddwyd sglefrfyrddiwr 13 oed o Gwm Gwendraeth.
Dechreuodd Osian George, 13 oed, sglefrfyrddio yn chwech oed ac ers hynny dydy o heb stopio.
“Nath o ddechrau achos o’n i eisiau snowboardio ond doeddwn ddim yn gallu achos maint fy nhraed ac wedyn weles i skatepark a nes i ddechrau neud o yn ‘Ramp Skate’ Llanelli,” meddai Osian wrth Newyddion S4C.
“Dwi’n ymarfer pob wythnos. Oedd e yn rili anodd yn y dechrau, ond unwaith dwi wedi ymarfer ddoth e mwy rhwydd.”
Mae Osian wedi cymryd rhan mewn sawl cystadleuaeth ac wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau yn erbyn oedolion hefyd.
Gemau Stryd yr Urdd
Y penwythnos yma bydd Osian yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gemau Stryd sydd wedi ei drefnu gan yr Urdd.
Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru ac yn ôl Osian mae’n bwysig bod cystadlaethau sglefrfyrddio yn bodoli yng Nghymru a drwy'r Gymraeg.
“Mae e yng Nghaerdydd, o flaen Canolfan y Mileniwm a dwi’n gobeithio gallu ennill. Dwi methu aros, dwi wedi bod yn ymarfer bob dydd.
“Fi’n credu bod e’n bwysig bod yr Urdd wedi trefnu achos ma’ fe’n neis i gael pethau am skateboarding yng Nghymru a mwy o gystadlaethau.
“Fi’n gobeithio gallu neud kick fips yn y gystadleuaeth,” ychwanegodd Osian.
Mae’r Gemau Stryd sy’n cael eu cynnal ym Mae Caerdydd yn gyfle i blant wyth oed a hŷn, pobl ifanc a chystadleuwyr proffesiynol i gystadlu mewn pump o gampau gemau stryd - Pêl fasged 3 x 3, Dawns ‘Breakin’, Sglefrfyrddio, BMX Steilrydd a Sgwteri.
Dim ond yn ddiweddar mae chwaraeon fel sglefrfyrddio wedi cael eu hychwanegu at y Gemau Olympaidd ac mae Osian yn gobeithio bydd y chwaraeon hyn yn cael mwy o statws o gwmpas y byd.
“Dwi rili moyn bod yn yr Olympics. Ma’n grêt bod sgefrfyrddio yn yr Olympics erbyn hyn. Fi’n gwatchad pob un gystadleuaeth,” meddai.
'Edrych ymlaen'
Er bod Osian yn dwued ei fod yn chwaraeon caled a peryglus ar adegau mae’n "edrych ymlaen" at ddangos ei sgiliau i eraill.
“Mae e yn galed. Dwi’n rili hoffi neidio dos focs ar y skateboard.
“Dwi wedi brifo fy hunan loads o weithie, ond dyw e heb stopio fi unwaith, dwi wedi cario ymlaen gwneud e.”
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd; “Mae campau stryd yn tyfu mewn poblogrwydd ac erbyn hyn yn rhan o arlwy'r Gemau Olympaidd, felly mae’n hollbwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael cyfle i brofi a datblygu sgiliau yn y campau hyn.
“Mae’r Gemau Stryd yn bluen arall i’r rhestr o ddigwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol mae’r Urdd yn ei gydlynu gyda’n partneriaid ac rydym yn gobeithio byddwn ni’n ysbrydoli’r to nesaf o bencampwyr byd. Mae hi’n bwysig tu hwnt i ni fel mudiad ein bod yn parhau i arbrofi, esblygu ac arloesi o ran ein cyfleoedd a'n cynnig i bobl ifanc Cymru.”
Bu'n rhaid gohirio cystadlaethau awyr agored y gemau ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd. Mewn datganiad, fe ymddiheurodd yr Urdd gan ddweud: "Mae diogelwch y cystadleuwyr yn flaenoriaeth."
Mae Gemau Stryd yr Urdd yn Roald Dahl Plass Caerdydd yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10:00 a 18:00, gyda’r cofrestru ar y ddau ddiwrnod rhwng 9:00 a 10:00.