Dyfarnu fod pum gwrthrych gafodd eu darganfod yn Sir Benfro yn drysorau
Mae pump gwrthrych gafodd eu darganfod yn Sir Benfro wedi eu dyfarnu'n drysorau.
Yn eu plith mae tair modrwy, un broetsh a gwniadur o'r cyfnod ôl-ganoloesol ac fe gafodd y gwrthrychau eu cofnodi'n swyddogol fel trysorau gan Paul Bennett, Uwch Grwner Gweithredol Sir Benfro ddydd Gwener.
Dyfarnwyd bod broetsh cylchog arian o'r drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn drysor.
Cafodd ei ganfod gan Lee Evans wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Cilgerran, Sir Benfro, ar ddydd Sadwrn 16 Mai 2021.
Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Archaeoleg Amgueddfa Cymru: "Diolch i gyflwyno Deddf Trysor 1996, mae mwy a mwy o emwaith o'r canoloesoedd fel y broetsh cylchog hwn o Gymuned Cilgerran yn cael eu hadrodd o Gymru.
"Mae'r adroddiad prydlon gan y canfyddwr wedi ychwanegu tystiolaeth ffres bod pobl yn y Gymru ganoloesol yn mynegi eu hunaniaeth bersonol drwy gyfrwng broetsh arian a niello ffasiynol – math o dystiolaeth ddiwylliannol sy'n ddibynnol ar arteffactau archaeolegol, a gwybod lle maen nhw'n cael eu canfod."
📢 TRYSOR WEDI EI DDARGANFOD YN SIR BENFRO
— Amgueddfa Cymru | National Museum Wales (@AmgueddfaCymru) June 17, 2022
Mae'r fodrwy arian ganoloesol hon, mwy na thebyg fyn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r unfed ganrif ar bymtheg, un o bump canfyddiad wedi eu dyfarnu yn drysor heddiw pic.twitter.com/O7fcib4GTV
Mae Amgueddfa Scolton Manor ger Hwlffordd wedi dangos diddordeb yn y broetsh ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Fe gafodd modrwy arian ganoloesol ei darganfod gan Vaughan Thomas wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, Sir Benfro, ar 5 Hydref 2018.
Mae'n debyg fod y fodrwy yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r unfed ganrif ar bymtheg.
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru: "Mae adrodd am ganfod gemwaith canoloesol fel y fodrwy arian addurniedig hon drwy'r Cynllun Henebion Cludadwy a Deddf Trysor 1996 yn cyfrannu’n fawr at ein dealltwriaeth o ffasiwn a mynegiant o hunaniaeth bersonol yng Nghymru'r Canoloesoedd."
Mae Amgueddfa Scolton Manor wedi dangos diddordeb yn y fodrwy, yn dilyn prisiad annibynnol.
Ymysg y gwrthrychau eraill a ddatganwyd eu bod yn drysorau mae:
- Darn o wniadur arian addurniedig o'r ail ganrif ar bymtheg a modrwy 'fede' aur ac enamel ôl-ganoloesol
- Darn o fodrwy 'gwarthol' arian ganoloesol. Mae'r fodrwy'n dyddio o'r ddeuddegfed neu'r drydedd ganrif ar ddeg.