Cau'r drws ar eglwys Gymraeg yn Toronto am y tro olaf
Daeth pennod yn hanes un o addoldai Cymreiciaf Canada i ben y penwythnos diwethaf, wrth i Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant yn Toronto gau ei drws am y tro olaf.
Mae adeilad yr eglwys wedi bod yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y ddinas ar Melrose Avenue am dros 62 flynyddoedd, gyda'r eglwys mewn bodolaeth ers 110 o flynyddoedd.
Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal yn yr eglwys yn ystod y penwythnos, gan gynnwys noson lawen, cyngerdd gan Gôr Meibion Toronto, a'r gymanfa ganu olaf yn yr adeilad.
Ni fydd yr eglwys yn dod i ben gan y bydd yr aelodau yn symud i gyd-addoli gydag Eglwys Goffa Timothy Eaton yn y ddinas.
Y gobaith yw y bydd traddodiadau Cymreig Eglwys Unedig Dewis Sant yn parhau ac yn datblygu mewn adeilad newydd yn Toronto.
Mewn neges i addolwyr cyn y dathliadau, dywedodd y Parchedig Liz Mackenzie fod y cyfnod yn un o ddathliadau a dagrau: "Y penwythnos hwn byddwn yn dathlu ac yn diolch i'r lle sanctaidd sydd wedi bod yn gartref i gymuned ffydd Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant ers bron 62 o flynyddoedd.
"Yn seiliedig ar yr hyn yr wyf wedi ei weld hyd yma, mae'r penwythnos yn un fydd yn cynnwys dagrau a chwerthin, galaru, canu a dawnsio (wrth gwrs!) a chyfnodau pan fydd y rhain oll yn digwydd.
"Ond yn fwy na dim fe fydd yn gyfle i ni ddiolch i'r diaspora Cymreig am ddod at ei gilydd dros ddeg degawd yn ôl i ddechrau eglwys ar gyfer dathlu eu ffydd yn Nuw."