Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth dynes ifanc yn Llangollen drwy yrru'n ddiofal

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys i wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth dynes ifanc yn ardal y Berwyn o Langollen fis Gorffennaf diwethaf.
Bu farw Abby Hill, 19 oed, o Acrefair ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad un cerbyd.
Fe wnaeth Marcus Pasley, 26 oed, o Llantysilio, Llangollen ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher i wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal pan nad oedd mewn cyflwr i yrru o achos alcohol.
Cafodd Pasley ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd gwrandawiad i'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Gorffennaf.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Heddlu