Cwpan y Byd: Pob grŵp wedi eu llenwi ar ôl i Costa Rica hawlio'r lle olaf
Mae pob un o grwpiau Cwpan y Byd wedi eu llenwi ar ôl i Gosta Rica hawlio'r lle olaf yn y bencampwriaeth.
Fe enillodd Costa Rica yn erbyn Seland Newydd o un gôl i ddim nos Fawrth.
Mae Cymru yng Ngrŵp B ac fe fydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Iran, Lloegr ac Unol Daleithiau America.
Fe fydd Cymru yn dechrau'r bencampwriaeth drwy wynebu'r UDA ar 21 Tachwedd.
Dyma sut mae'r grwpiau'n edrych wedi i bob lle yn y bencampwriaeth gael eu llenwi:
The stage is set. We now know the final 32 teams that are heading to #Qatar2022. 🤩
— FIFA World Cup (@FIFAWorldCup) June 14, 2022
Who will lift the #FIFAWorldCup? 🏆 pic.twitter.com/SajfjpmnAx
Grŵp A: Qatar, Ecuador, Senegal, Yr Iseldiroedd
Grŵp B: Cymru, GI Iran, Lloegr, UDA
Grŵp C: Gwlad Pwyl, Mecsico, Saudi Arabia, Yr Ariannin
Grŵp D: Awstralia, Denmarc, Ffrainc, Tiwnisia
Grŵp E: Costa Rica, Japan, Sbaen, Yr Almaen
Grŵp F: Canada, Croatia, Gwlad Belg, Moroco
Grŵp G: Brasil, Cameroon, Serbia, Y Swistir
Grŵp H: Ghana, Gweriniaeth Corea, Portiwgal, Uruguay