Rhai o actorion Gavin & Stacey yn ffilmio ar Ynys y Barri
Rhai o actorion Gavin & Stacey yn ffilmio ar Ynys y Barri
Mae rhai o actorion Gavin & Stacey wedi eu gweld yn ffilmio ar Ynys y Barri, sef un o brif leoliadau'r gyfres boblogaidd.
Roedd Alison Steadman (Pam) a Larry Lamb (Mick) i'w gweld yn siarad gydag aelodau'r cyhoedd oedd wedi ymgynnull i wylio'r ffilmio.
Fe ddywedodd Lamb wrth y dorf "What's occurin'?" sef un o ddywediadau'r gyfres.
Nid yw'n glir beth oedd y ddau yn ffilmio ar Ynys y Barri.
Mae dilynwyr y gyfres wedi bod yn holi ar y cyfryngau cymdeithasol a oes pennod newydd o'r gyfres gomedi ar y gorwel.
Please hope it’s happening #GavinandStacey Pam and mick spotted in Barry pic.twitter.com/m1834xJ4vP
— Kerry Taylor Jones #TEAMSPACEMAN 🇬🇧 👩🚀🚀 (@MummySparkles78) June 13, 2022
Is #gavinandstacey teasing us?? @RuthJonesFans @JKCorden don't dangle the 🥕 https://t.co/kgcuHDrv6v
— Suzanne Burrows (@suzyb443) June 13, 2022
So Mick & Pam spotted on Barry Island filming. Is a new series of Gavin & Stacey happening?😁😏 #GavinandStacey @RhiannonLucas15
— Adam Saunders (@AdamSaunders11) June 13, 2022
Yn ddiweddar, fe ddathlodd y gyfres 15 mlynedd ers darlledu'r bennod gyntaf un.
Fe ddaeth Gavin & Stacey i ben ar 1 Ionawr 2010 yn wreiddiol, cyn dychwelyd am bennod Nadolig yn 2019 bron i ddegawd yn ddiweddarach.