Newyddion S4C

Y Cymry a'r byd yn talu teyrnged i Phil Bennett

Newyddion S4C 13/06/2022

Y Cymry a'r byd yn talu teyrnged i Phil Bennett

Mae pobl yng Nghymru a thu hwnt wedi talu teyrnged i un o gewri'r byd rygbi, Phil Bennett, wedi iddo farw yn 73 oed. 

Bu'r maswr o Felinfoel yn serennu i'r Scarlets, Cymru a'r Llewod yn ystod ei yrfa. 

Chwaraeodd rôl mewn nifer o uchafbwyntiau yn hanes rygbi gan gynnwys taith y Llewod yn Ne Affrica yn 1974 a churo Seland Newydd gyda'r Scarlets yn 1972. 

Yn sgil ei farwolaeth nos Sul, mae nifer o enwogion o Gymru a'r byd wedi talu teyrnged i'r chwaraewr campus. 

Fe wnaeth Bennett gynrychioli Cymru 29 o weithiau yn ystod ei yrfa gan ennill dwy gamp lawn gyda'r tîm cenedlaethol. 

Treuliodd 16 mlynedd ym Mharc y Strade gan chwarae 413 o weithiau i'r Scarlets cyn dod yn llywydd anrhydeddus i'r rhanbarth wedi iddo ymddeol. 

Ym mis Tachwedd 2005, fe gafodd ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol, ac yn 2007 fe gafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.