Prif gynghorydd yn beirniadu cynllun bwyd y Llywodraeth

Mae prif gynghorydd bwyd Llywodraeth y DU wedi beirniadu cynlluniau i daclo tlodi bwyd a gordewdra.
Roedd Henry Dimbleby, a wnaeth sefydlu'r gadwyn bwytai Leon, wedi arwain adolygiad y llywodraeth o'r system fwyd yn y DU.
Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno cynllun bwyd ddydd Llun, sydd wedi cynddeiriogi ymgyrchwyr hawliau anifeiliad, arbenigwyr polisi bwyd a ffermwyr.
Yn ôl Mr Dimbleby, mae'r strategaeth yn anwybyddu nifer o'i argymhellion a ddim yn gwneud digon i ddelio gyda thlodi bwyd.
Dywedodd Mr Dimbleby nad yw'r cynllun yn cynnwys awgrymiadau fel gwella safonau amgylcheddol a llesiant yn y diwydiant amaethyddol a lleihau faint o gig a chynnyrch llaeth sy'n cael ei fwyta.
Mae Boris Johnson wedi honni y bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr Prydeinig, yn hybu'r economi ac yn amddiffyn pobl rhag effaith unrhyw broblemau economaidd yn y dyfodol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Richard Croft