Cau ffordd yng Ngwynedd yn dilyn gwrthdrawiad
12/06/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau ffordd yr A498 yn Nant Gwynant yn dilyn gwrthdrawiad am tua 13.00 ddydd Sul.
Dywedodd yr heddlu y byddai'r ffordd yn debygol o fod ar gau "am beth amser."
Mae’r heddlu wedi gofyn i yrwyr osgoi’r ardal a defnyddio ffyrdd eraill.
Mae’r heddlu wedi diolch i deithwyr am eu cydweithrediad.
Bu’n rhaid i’r heddlu hefyd gau ffordd yr A525 ger cyffordd yr A539 yng Nghroes Eglwys yn Wrecsam yn dilyn gwrthdrawiad.