Anogaeth i ragor o bobol yng Nghymru roi gwaed er mwyn achub bywydau
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog pobl i ystyried dod yn rhoddwyr gwaed i helpu i achub bywydau.
Daw’r alwad ddydd Llun ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed.
Yn ôl Gwasanaeth Gwaed Cymru, mae angen dros 350 o roddion gwaed bob dydd ledled Cymru.
Mae'r rhoddion hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau bob dydd, drwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, helpu dioddefwyr damweiniau sy’n gwella a chleifion â chanser y gwaed a chefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cefnogi 20 o ysbytai ar draws y wlad, ac yn dibynnu ar roddion gan roddwyr gwaed, platennau a mêr esgyrn i gefnogi cleifion mewn angen.
#WythnosGenedlaetholRhoddwyrGwaed Hapus!❤🩸️
— Gwasanaeth Gwaed Cymru 🏴 (@GwaedCymru) June 13, 2022
Rydym yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mewn achub bywydau y mae rhoi gwaed yn ei wneud. Dyma bopeth sydd angen i chi wybod am roi gwaed gyda'ch Gwasanaeth Gwaed Cymru 🏴mewn un edefyn defnyddiol 🗒️⬇ pic.twitter.com/vC8VEChboI
Mae Howard Provis, 65 oed, wedi bod yn rhoi gwaed am bron i 50 mlynedd.
Mae Howard wedi bod yn rhoi platennau ers yn 18 oed. Yn ddiweddar mae wedi rhoi ei 1,000fed rhodd sydd wedi helpu i achub bywydau miloedd o bobl ledled Cymru.
Dywedodd Howard: "Gyda chefndir mewn cymorth cyntaf ac ymateb yn gyntaf, rwyf wedi gweld pobl mewn llawer o sefyllfaoedd sydd wedi gofyn am waed. I mi, mae gallu rhoi gwaed neu blatennau wedi rhoi ail gyfle i rai o'r bobl hynny fyw neu dreulio amser ychwanegol gwerthfawr gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau.
"Yfory, efallai mai fi sydd angen gwaed neu rodd platennau, neu fy ngwraig, teulu neu ffrind. Mae'r syniad y gallai fy rhodd heddiw o bosibl achub bywyd rhywun yfory wedi fy ysbrydoli i barhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru."
Goresgyn effaith Covid
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: "Mae Howard yn un o ddim ond llond llaw o roddwyr i gyrraedd y garreg filltir anhygoel hon, a bydd ei roddion wedi helpu cleifion mewn angen o ysbytai ledled Cymru.
"Mae ei ymrwymiad i helpu eraill yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rydym yn gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill i ddechrau eu taith achub bywydau eu hunain yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed hon."
Mae Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed yn gyfle i wasanaethau gwaed ledled y DU godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi gwaed i achub bywydau ac annog y rhai nad ydynt erioed wedi rhoi gwaed i roi cynnig arni.
"Wrth i'n Gwasanaeth weithio tuag at wasanaeth casglu ar ôl Covid, rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn camu ymlaen ac yn ymuno â'n tîm achub bywyd," ychwanegodd Mr Prosser.
"Yn dilyn newidiadau i ganllawiau rhoi gwaed y DU, gall mwy o bobl nag erioed o'r blaen roi gwaed yn ddiogel, sy'n golygu na fu erioed amser gwell i roi cynnig arni."
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.welshblood.org.uk.