Eisteddfod Genedlaethol: Apêl i godi cylch o gerrig yng nghanol Tregaron

Eisteddfod Genedlaethol: Apêl i godi cylch o gerrig yng nghanol Tregaron
Gyda 50 o ddiwrnodau i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion mae apêl i godi cylch o gerrig yng nghanol Tregaron i gofio’r Eisteddfod wedi iddi adael ym mis Awst.
Mae Cerrig yr Orsedd yn rhan ganolog o seremonïau’r Orsedd yn yr Eisteddfod, ond ers sawl blwyddyn mae'r Orsedd wedi bod yn defnyddio meini ffug.
Mae'r cerrig ffug yn haws i'w symud - sy'n golygu nad oes cerrig parhaol yn cael eu gadael ar ôl wedi i'r steddfod ymweld.
Ond mae Cyngor Tref Tregaron am osod cofeb barhaol i nodi ymweliad yr Eisteddfod ym mis Awst.
'Rhywbeth neis i gofio'
Dywedodd Owain Pugh o Gyngor Tref Tregaron wrth Newyddion S4C: “Ni 'di aros yn hir am y 'steddfod i ddod i Dregaron, a 'wi'n gweld e'n syniad bod ni'n gallu cofio fe ar ôl e fod.
“Bydd e'n brysur iawn ar y pryd, a cyn i ni wybod fydd y 'steddfod wedi pasio a fydd e'n rhywbeth neis i gofio bod y 'steddfod wedi bod 'ma.”
Mae Cyngor Tref Tregaron yn galw ar bobl ar draws y sir i gyfrannu meini.
Un sydd wedi cyfrannu yn barod ydy Owen Jones, ffermwr lleol.
“Fe wnaeth garreg cael ei rhoid i 'steddfod Llanbed. 'Wi'n credu mai'n rhywbeth bach neis i roi rhywbeth nôl i'r gymuned, a hefyd rhywbeth i gofio," meddai Mr Jones wrth Newyddion S4C.
Wrth i Dregaron geisio sicrhau cofeb barhaol i’r Eisteddfod, mae yna ddigon o edrych ymlaen i’r brifwyl wedi iddi gael ei ohirio ddwywaith oherwydd Covid-19.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron yn cael ei chynnal o 30 Gorffennaf tan 6 Awst.