Arestio dyn wedi i ferch bedair oed gael ei hanafu mewn gwrthdrawiad yn Abertawe

Mae dyn 24 oed wedi ei arestio ar ôl i ferch bedair oed gael ei hanafu mewn gwrthdrawiad yn ardal Mayhill o Abertawe fore dydd Iau.
Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac mae'r heddlu'n disgrifio ei hanafiadau fel rhai "all beryglu ei bywyd."
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 11:45 ar Heol Waun Wen.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Google