Newyddion S4C

Arestio cyn ŵr Britney Spears am geisio tarfu ar ddiwrnod ei phriodas

Sky News 10/06/2022
Britney Spears yn perfformio

Mae cyn ŵr Britney Spears wedi cael ei arestio yng nghartref y gantores yn Los Angeles ychydig cyn iddi briodi ei phartner presennol, Sam Asghari. 

Ychydig cyn y digwyddiad, fe wnaeth Jason Alexander ddweud ar ei gyfrif Instagram ei fod yno er mwyn "tarfu" ar y briodas. 

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi ymateb i ddigwyddiad o dresbasu yng nghyfeiriad Ms Spears gan arestio Mr Alexander yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Alexander ei arestio wedi i swyddogion sylweddoli bod yna warant i'w arestio mewn sir arall yn yr UDA.

Fe wnaeth Ms Spears briodi ei chyn ŵr yn 2004, ond dim ond am 55 awr y buon nhw'n briod. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.