Ryanair yn cythruddo pobl yn Ne Affrica ar ôl gofyn am atebion holiadur mewn Afrikaans

Mae cwmni awyrennau Ryanair wedi corddi'r dyfroedd yn Ne Affrica ar ôl gofyn i bobl gwblhau holiadur yn yr iaith Afrikaans - iaith sydd wedi ei chysylltu gyda chyfundrefn ormesol apartheid y wlad yn y gorffennol.
Dim ond 1% o bobl ddu y wlad sydd yn siarad yr iaith, ac fe fyddai cwblhau'r fath holiadur yn codi atgofion poenus i lawer y meddai beirniaid yr holiadur.
Dadl Ryanair oedd bod yr holiadur yn gam diogelwch i wirio teithwyr ar eu hediadau ar ôl gweld cynnydd mewn pobl yn defnyddio dogfennau adnabod ffug.
Ond mae'r cam wedi derbyn cryn feirniadaeth yn Ne Affrica a hefyd yn Iwerddon, ble cafodd y cwmni ei sefydlu.
Darllenwch ragor yma.