Kieffer Moore allan o garfan pêl-droed Cymru gydag anaf
Mae Kieffer Moore wedi gadael carfan Cymru sydd yn paratoi ar gyfer eu dwy gêm nesaf, ac hynny yn dilyn anaf.
Mae Tom King wedi ymuno â'r garfan fel pedwerydd gôl-geidwad.
DIWEDDARIAD CARFAN 🏴
— Wales 🏴 (@Cymru) June 9, 2022
Tom King has been added to the squad as a fourth goalkeeper.
Kieffer Moore has withdrawn due to injury.#TogetherStronger pic.twitter.com/VdzXXUVY4A
Daw hyn yn dilyn colled o 1-2 i Gymru yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fercher yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae gan Gymru erbyn hyn un llygad ar Gwpan y Byd wedi i'r garfan ennill ei lle am y tro cyntaf ers 1958.
Fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn Gwlad Belg nos Sadwrn.
Llun: Asiantaeth Huw Evans