Gêm arbennig yn denu hen wynebau yn ôl i’r cae rygbi
Bydd cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn dychwelyd i’r cae chwarae nos Wener ar gyfer tysteb James Hook.
Fe fydd Hook, cyn faswr Cymru, sydd wedi ymddeol o’r gêm ers 2020, yn arwain carfan o sêr yn erbyn Y Llewod Clasurol XV ar gae'r Gnoll yng Nghastell-nedd.
Mae Shane Williams, Mike Phillips, Colin Charvis, Phil Vickery, Delon Armitage, Maa’ma Molitika a Nick Williams ymysg y chwaraewyr enwog fydd yn cymryd rhan.
Mae’r gêm yn gyfle i Hook ffarwelio â chefnogwyr, wedi iddo fethu nodi’r achlysur oherwydd cyfyngiadau Covid-19 yn 2020.
Dywedodd Hook: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi gael y cyfle i gael Blwyddyn Dysteb gan Glwb Cefnogwyr y Gweilch, Y Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru.
“Rwy’n hynod falch o’r hyn yr wyf wedi’i gyflawni yn ystod fy ngyrfa ac mae gallu ei ddathlu yn y modd hwn yn rhywbeth arbennig iawn i fy nheulu a minnau.
“Hefyd, mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl i elusennau sy’n agos at fy nghalon drwy gydol blwyddyn y Dysteb yn rhan enfawr o’r rhaglen ddigwyddiadau arfaethedig.”
Carfan James Hook: Andrew Howells, Matthew Rees, Tom Sloane, Daf Jones, Lyndon Bateman, Rob McCusker, Colin Charvis, Jonathan Thomas, Mike Phillips, James Hook, Aled Brew, Mark Taylor, Alan Bateman, Shane Williams, Alex Lawson, Hugh Gustafson, Ceri Jones, Richie Pugh, Ant Carter, Pat Horgan, Dave Tiueti, David Bishop, Nick Jones, Neil Clapham, Rory Gallagher, Richard Johnston, Paul Jones, James Merriman, Luke Narraway, Haydn Pugh, Rhys Shellard, Tom Smith, Richard Thomas.
Carfan Y Llewod Clasurol: Rhys Gill, Marc Breeze, Phil Vickery, James Down, Michael Patterson, Chris Dicomidis, Maa’ma Molitika, Nick Williams, Martin Roberts, Steffen Williams, Aaron Bramwell, Gavin Evans, Joel Healey, Nathan Brew, Delon Armitage, Stefan Bond, Neil White, Dan Baker, Gareth Davies, Andy Williams, Foard Cooksly, Chris Davies, Kevin Ellis, Kevin James, Hugh Keir.
Bydd gatiau'r Gnoll yn agor am 17:00 ddydd Gwener, gyda'r gêm yn cychwyn am 19:00.