Bwrdd iechyd yn rhybuddio tresmaswyr yn sgil difrod i ysbyty yn Abertawe
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyhoeddi rhybudd yn dilyn cyfres o achosion o dorri mewn difrodi rhannau o ysbyty yn Abertawe.
Mae mesurau diogelwch wedi cynyddu ar safle Ysbyty Cefn Coed ac mae'r bwrdd yn rhybuddio unrhyw dresmaswyr y byddan nhw'n cael eu cyfeirio at yr heddlu.
Yn ôl y bwrdd, fe aeth dau grŵp o bobl ar wahân ati i gael mynediad i dir yr ysbyty dros y penwythnos diwethaf .
Mae'r bwrdd yn dweud fod un o'r grwpiau wedi achosi difrod i adeilad gwag ar dir yr ysbyty.
Dywed y bwrdd fod y staff diogelwch wedi delio â'r tresmaswyr ar y safle ac na ddaeth unrhyw gleifion i gyswllt â nhw.
Mae rhannau o'r ysbyty yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl i oedolion.
Mae dros 100 o gleifion ar safle'r ysbyty ac mae'r bwrdd yn atgoffa pawb i barchu'r safle sydd ar dir preifat.