
Cynnydd prisiau pysgod yn bryder i berchnogion siopau sglodion

Cynnydd prisiau pysgod yn bryder i berchnogion siopau sglodion
Mae cynnydd diweddar mewn prisiau pysgod yn bryder i berchnogion siopau sglodion.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Erin Morgan o siop sglodion Sgadan yn Aberthporth yng Ngheredigion bod prisiau wedi “codi lot fan hyn dros y cwpwl o fisoedd diwetha’.
“Cod y’n ni’n ffrio fan hyn. O’n ni’n prynu fe mewn ym mis Mawrth, a ma’ fe ’di codi erbyn nawr biti 50%.
“Ni ffaelu rili codi prisiau ni 50% achos mae hwnna falle bach yn ddrud i’r bobl leol, gan fod ni’n Cardis fan hyn.”

'Pethach i gyd yn mynd yn ddrud'
Mae’r cynnydd mewn prisiau nwyddau hefyd yn bryder i’r siop, ychwanegodd Ms Morgan.
“Fi ’di sylwi bod pethach i gyd yn mynd yn ddrud mewn ffordd, dim jyst prisiau fish chi’n gw’bod? Prisiau petrol, prisiau gas i ni i danio’r range.
“Ond ma’ olew, chi ’di gweld dros y newyddion i gyd,ma’ olew, palm oil, rapeseed oil, achos beth sy’n digwydd yn ochr arall Ewrop.”
'Ma’ fe’n fwy o trît'
Yn ôl Gareth Morgan o Gaffi Pendre, Aberteifi, mae newid wedi bod yn y nifer sy’n prynu sglodion yn wythnosol hefyd yn cael effaith ar y diwylliant.
“O’dd lot o bobl yn prynu pysgod a sglodion falle tair gwaith yr wythnos - maen nhw’n prynu fe ’falle dwywaith y mis,” meddai.
Mae Ms Morgan yn cytuno: “Oedd cael pysgod a sglodion, oedd pobl yn gallu mynd bob wythnos i gael e, ch’mod? Ond erbyn nawr, ma’ fe’n fwy o trît. Mae pobl yn safio arian er mwyn cael pysgod a sglodion nawr.
"Ni wedi meddwl o’r blaen, beth ’falle gallen ni ffrio yn hytrach na cod, achos bod e’n mynd lan gymaint.
“Wel, mae pysgod a sglodion ’di bod rownd Prydain ers blynydde a blynydde, cyn bod fi i gael, ’weden i.
“Mae pobl yn mwynhau cael pysgod a sglodion wrth y môr, mae’n rhaid cael e mewn ffordd, yn does e? Mae’n ddiwylliant."