Beirniadaeth bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru i warchod afonydd yn 'hen ffasiwn'
Mae un o bwyllgorau'r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail asesu eu cynlluniau i ddiogelu afonydd Cymru.
Mae'r Pwyllgor yr Economi Masnach a Materion Gwledig yn dadlau bod angen ystyried nifer o opsiynau, nid cyfnodau gwasgaru slyri amaethyddol yn unig.
Yn ôl y pwyllgor, dyw bennu’r union ddyddiadau y caiff ffermwyr hawl i wasgaru slyri ddim yn ddigon er mwyn gwarchod afonydd rhag llygredd.
Mae'r pwyllgor yn dweud bod y cyfyngiadau’n "hen ffasiwn" ac mae grwpiau amaethyddol yn dadlau y gallai datblygiadau technolegol fod yn fwy buddiol a chost-effeithiol.
Mewn adroddiad, mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ddulliau technolegol amgen yn hytrach na phennu cyfnodau caeedig ar gyfer gwasgaru slyri.
Mae’r gwaith o wasgaru slyri wedi’i gyfyngu i rai dyddiau penodol yn ystod y flwyddyn o dan ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i reoli llygredd amaethyddol.
Dywedodd Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: “Mae'r rheoliadau presennol yn gyfystyr â 'ffermio yn ôl calendr', ac mae angen ystyried y realiti i ffermwyr Cymru.
“Mae’r tywydd yn dyngedfennol wrth wasgaru slyri, proses sy’n hanfodol bwysig i wella’r cnydau a gynhyrchir, a rhaid i ni, er mwyn y gymuned amaethyddol, wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
“Mae hyn yn gwbl amlwg. Ar adeg pan fo’n rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd a materion diogelwch bwyd. Mae angen i ni helpu ffermwyr i ddiogelu eu bywoliaeth yn ogystal â diogelu safonau ansawdd aer a dŵr Cymru.”
Mae'r pwyllgor hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd y rheoliadau Adnoddau Dŵr yn amlach na phob pedair blynedd.
Fis Gorffennaf diwethaf, pleidleisiodd yr Aelodau o’r Senedd yn unfrydol o blaid cynnig i un o bwyllgorau’r Senedd adolygu’r rheoliadau.
Ond oherwydd her gyfreithiol i'r rheoliadau, fe fu oedi cyn i’r pwyllgor fwrw ymlaen â’r gwaith.
Mae’r adolygiad yn amlinellu deg o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Ac mae disgwyl i'r llywodraeth ymateb i’r casgliadau hynny ddechrau mis Medi.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ei hymateb.
Llun: Creative Commons licenses