Y Frenhines yn ymddangos wrth i ddathliadau'r Jiwbilî ddod i ben

Mae'r Frenhines wedi ymddangos ar y balconi ym Mhalas Buckingham ddydd Sul wrth i ddathliadau'r Jiwbilî Platinwm ddod i ben.
Fe ymddangosodd Ei Mawrhydi Y Frenhines i chwifio i dorfeydd y tu allan i'r cartref brenhinol yn Llundain.
Roedd yn sefyll ochr yn ochr â'r Tywysog Charles, Duges Cernyw, Dug a Duges Caergrawnt, a'u plant y Tywysog George, y Dywysoges Charlotte a'r Tywysog Louis.
Roedd y frenhines wedi colli nifer o weithgareddau yn ystod penwythnos y Jiwbilî ar ôl profi anesmwythder mewn digwyddiad ddydd Iau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Swyddfa Dramor