Heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd
02/06/2022Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ardal Trelái yng Nghaerdydd.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw am oddeutu 01:15 fore Iau yn dilyn adroddiadau fod dyn 44 oed wedi ei anafu tu allan i eiddo ar Heol Jackson yn Nhrelái.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi dioddef anafiadau yn sgil trywanu, a’i fod wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae'n derbyn triniaeth am fân anafiadau.
Mae dau fachgen 16 oed ac un arall 17 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar unigolyn, ac maent yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd gan wybodaeth am y digwyddiad drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2200183851.
Darllenwch fwy yma.